Llwyth Celtaidd yn byw yng Nghernyw, Dyfnaint a mannau gorllewinol Gwlad yr Haf oedd y Dumnonii, weithiau Dumnones.
Awgryma darganfyddiadau o grochenwaith yn yr ardaloedd hyn fod ganddynt gysylltiadau mwy clos â Llydaw nag a de-ddwyrain Lloegr. Mae'r patrwm o fryngaerau cymharol fychain a ffermydd unigol gydag amddiffynfeydd yn awgrymu unedau llai mewn rhyw fath o gynghrair yn hytrach na grym canolog. Prin yw darnau arian, ac nid ymddengys fod yr un ohonynt wedi eu bathu yn lleol.
Enwir pedair canolfan yn nhiriogaeth y Dumnonii gan Ptolemi yn yr 2g: eu prifddinas Isca Dumnoniorum (Caerwysg heddiw), Tamara (ar Afon Tamar mae'n debyg, efallai yn ardal Plymouth), Uxella a Voliba. Enwir dwy ganolfan arall yng Nghosmograffi Ravenna, Nemetostatio a Durocornavium. Yn ddiweddarach, datblygodd teyrnas Frythonig Dyfnaint yn ar ardal yma.